kywydd y ffenest dderw
1 Kerddais o vewn kydlaisiay
2 kerdd amal vy'r mogyal may
3 dan ystlys dyrys diroedd
4 hyd y bym hyn o dyb oedd
5 daan ar ganvod dewr gainverch
6 drwy vric yllwyn er mwyn merch
7 ffyrf gariad dygiad agerw
8 ffenestr gadarn oddarn dderw
9 [43] ercheis gysan gwedd lanach
10 y vyn drwy ffenestr dderw vach
11 gem addwyn oedd gam iddi
12 gomeddoedd ny vynoedd vi
13 astrys vyr ffenestr oystrayl
14 llei rhoed yddwyn llefyr hayl
15 ny bwy hen o by o hyd
16 ffenestr a hon yn ffynyd
17 dieythr yr hwyl daith yr helynt
18 yr hon ar Gaer lleon gynt
19 y doi Velwas o draserch
20 drwyddi heb arswydi serch
21 kyr tremynt kariad tramawr
22 gynt ger ty verch Ogran Gawr
23 kyd gawn vod pan vai 'modi
24 hwyl am yffenestr a hi
25 nychefeis elw val melwas
26 ny chyr grydd yw nachair gras
27 betem vyam dlysem dlos
28 wyneb yn wyneb nawnos
29 heb wyl sal heb olay ser
30 heb elw rwng day biler
31 mwy'r kawdd obopty'r myr kalch
32 vin vin vyam dyn vain valch
33 [44] ny allem ayrem wryd
34 gael yn day ylfyn ygyd
35 ny all day enay vnoed
36 drwyffenestr gribyngrestr goed
37 v'angay graen vy' ing ogred
38 'vengil rhac ychyfynged
39 ny ffoyned neb wrth ffenestr
40 rwng ffanygl nos arhos restr
41 heb hyno val ym poynwyd
42 heb hwyl hoyw am ddyn loyw lwyd
43 tored diawl ffenestrawl ffay
44 affwl arf eyffileray
45 awchlwyr llid aeichlawr llydan
46 ay chlo ay hallwedd achlan
47 ac ai gwnaeth rheolaeth rhys
48 ay rhestr bileray rhwystrys
49 lladd kanaid am llydd kynif
50 ar llaw ay llyddioedd o'r
llif
51 lladd dihir am llydd dy hyn
52 llyddioedd vi lleddfoedd yvyn
dd' ap Glm' ai kant
Nodiadau
14. llefyr Ceir lleufer mewn ysgrifen fanach oddi tano.